58 Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos;rwyt wedi dod i'm hachub.
59 Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD,felly wnei di farnu o'm plaid i?
60 Ti wedi gweld eu malais nhw,a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.
61 Ti wedi eu clywed nhw'n gwawdio, O ARGLWYDD,a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.
62 Mae'r rhai sy'n ymosod arna i yn sibrwdac yn hel straeon yn fy erbyn drwy'r amser.
63 Edrycha arnyn nhw! – O fore gwyn tan nosmaen nhw'n fy ngwawdio i ar gân.
64 Tala yn ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD;rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu.