7 Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc.Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trymion.
8 Dw i'n gweiddi'n daer am help,ond dydy e'n cymryd dim sylw.
9 Mae wedi blocio pob ffordd allan;mae pob llwybr fel drysfa!
10 Mae e fel arth neu lewyn barod i ymosod arna i.
11 Llusgodd fi i ffwrdd a'm rhwygo'n ddarnau.Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun.
12 Anelodd ei fwa saeth ata i;fi oedd ei darged.
13 Gollyngodd ei saethaua'm trywanu yn fy mherfedd.