1 Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi.
2 “Dw i wedi'ch caru chi,” meddai'r ARGLWYDD.Ond dych chi'n gofyn, “Sut wyt ti wedi dangos dy gariad aton ni?”Ac mae'r ARGLWYDD yn ateb,“Onid oedd Esau'n frawd i Jacob?Dw i wedi caru Jacob
3 ond gwrthod Esau.Dw i wedi gwneud ei fryniau yn ddiffeithwch;a'i dir yn gartre i siacaliaid yr anialwch.”
4 Mae Edom yn dweud, “Mae'n trefi wedi eu chwalu,ond gallwn ailadeiladu'r adfeilion.”Ond dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Gallan nhw adeiladu, ond bydda i yn bwrw i lawr!Byddan nhw'n cael eu galw yn wlad ddrwg,ac yn bobl mae'r ARGLWYDD wedi digio hefo nhw am byth.”
5 Cewch weld y peth drosoch eich hunain, a byddwch yn dweud,“Yr ARGLWYDD sy'n rheoli, hyd yn oed y tu allan i ffiniau Israel!”