Malachi 3 BNET

1 “Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd,a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i.Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisioyn dod i'w deml.Ydy, mae angel yr ymrwymiad,dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

2 Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw?Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg?Achos mae e fel tân sy'n toddi metelneu sebon y golchwr.

3 Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian;ac yn puro disgynyddion Lefi –bydd yn eu gloywi fel aur ac arian,er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r ARGLWYDD.

4 Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalemyn plesio'r ARGLWYDDfel roedden nhw ers talwm,yn yr hen ddyddiau.

5 “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu;dw i'n barod i dystio yn erbynpawb sydd ddim yn fy mharchu –y rhai sy'n dewino ac yn godinebu,sy'n dweud celwydd ar lw,sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog),yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad,ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

6 “Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid,a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”

Rhaid troi yn ôl at Dduw

7 “Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau,a ddim yn eu cadw.Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.

8 “Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw?Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.”“Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi.“Trwy gadw'r degymau a'r offrymau.

9 Dych chi'n diodde melltith,am eich bod chi'n dwyn oddi arna i– ie, y cwbl lot ohonoch chi!

10 Dewch â'r degwm llawn i'r stordy,fel bod yna fwyd yn fy nheml.Ie, rhowch fi ar brawf,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoeddac yn tywallt bendith arnoch chi;fyddwch chi'n brin o ddim byd!

11 Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid,rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir;fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

12 “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweudeich bod wedi eich bendithio,am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

Bydd Duw yn bendithio'r rhai ffyddlon

13 “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Beth ydyn ni wedi ei ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.

14 “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw.Beth ydyn ni wedi ei ennill o wrando arnoa mynd o gwmpas yn edrych yn dristo flaen yr ARGLWYDD holl-bwerus?

15 Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! –maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo;maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”

16 Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.

17 “Nhw fydd fy mhobl i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod.Bydda i'n gofalu amdanyn nhwfel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.

18 Byddwch chi'n gweld y gwahaniaethrhwng yr un sydd wedi byw'n iawn a'r rhai drwg,rhwng y sawl sy'n gwasanaethu Duwa'r rhai sydd ddim.

Penodau

1 2 3 4