1 Ydy, mae'r diwrnod yn dod;mae fel ffwrnais yn llosgi.Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwgyn cael eu llosgi fel bonion gwellt,ar y diwrnod sy'n dod,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Byddan nhw'n llosgi'n ulwnes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl.
2 Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrioarnoch chi sy'n fy mharchu i,a iachâd yn ei belydrau.Byddwch yn mynd allan,yn neidio fel llo wedi ei ollwng yn rhydd.
3 Byddwch yn sathru'r rhai drwg,a byddan nhw fel lludw dan eich traedar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
4 Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas;y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinaiar gyfer Israel gyfan.
5 Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chicyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod.
6 Bydd yn annog rhieni a phlant i droi'n ôl ata i,rhag i mi ddod a taro'r wlad, a'i dinistrio'n llwyr.