Malachi 1:5-11 BNET

5 Cewch weld y peth drosoch eich hunain, a byddwch yn dweud,“Yr ARGLWYDD sy'n rheoli, hyd yn oed y tu allan i ffiniau Israel!”

6 “Mae mab yn parchu ei dada chaethwas yn parchu ei feistr.Os dw i'n dad, ble mae'r parch dw i'n ei haeddu?Ac os ydw i'n feistr, pam nad ydw i'n cael fy mharchu?”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Dych chi offeiriaid yn dangos dim ond dirmyg tuag ata i!”“Sut ydyn ni wedi dy ddirmygu di?” meddech chi.

7 “Trwy offrymu bwyd sy'n halogi fy allor i.”“Sut ydyn ni wedi ei halogi?” meddech chi wedyn.“Trwy feddwl, ‘Sdim ots mai bwrdd yr ARGLWYDD ydy e.’”

8 Pan dych chi'n cyflwyno anifail dall i'w aberthu,ydy hynny ddim yn ddrwg?Pan dych chi'n cyflwyno anifail cloff neu sâl,ydy hynny ddim yn ddrwg?Rhowch e i lywodraethwr y wlad!Fyddai e'n cael ei blesio?Fyddai e'n garedig atoch chi?—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

9 Nawr, ceisiwch ofyn am fendith Duw!Fydd e'n garedig atoch chi?Os mai offrymau fel yma dych chi'n eu rhoi iddo,fydd e'n garedig atoch chi?Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:

10 “O na fyddai un ohonoch chi'n cloi giatiau'r deml,fel ei bod hi'n amhosib i roi tân ar fy allor –y cwbl i ddim pwrpas!”“Dw i ddim yn hapus hefo chi o gwbl,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“a dw i ddim yn mynd i dderbyn eich offrwm chi!

11 O un pen o'r byd i'r llall,bydd fy enw'n cael ei barchudrwy'r gwledydd i gyd!Bydd arogldarth ac offrwm puryn cael ei gyflwyno i mi ym mhobman.Bydd fy enw'n cael ei barchudrwy'r gwledydd i gyd!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.