Malachi 1:8-14 BNET

8 Pan dych chi'n cyflwyno anifail dall i'w aberthu,ydy hynny ddim yn ddrwg?Pan dych chi'n cyflwyno anifail cloff neu sâl,ydy hynny ddim yn ddrwg?Rhowch e i lywodraethwr y wlad!Fyddai e'n cael ei blesio?Fyddai e'n garedig atoch chi?—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

9 Nawr, ceisiwch ofyn am fendith Duw!Fydd e'n garedig atoch chi?Os mai offrymau fel yma dych chi'n eu rhoi iddo,fydd e'n garedig atoch chi?Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:

10 “O na fyddai un ohonoch chi'n cloi giatiau'r deml,fel ei bod hi'n amhosib i roi tân ar fy allor –y cwbl i ddim pwrpas!”“Dw i ddim yn hapus hefo chi o gwbl,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“a dw i ddim yn mynd i dderbyn eich offrwm chi!

11 O un pen o'r byd i'r llall,bydd fy enw'n cael ei barchudrwy'r gwledydd i gyd!Bydd arogldarth ac offrwm puryn cael ei gyflwyno i mi ym mhobman.Bydd fy enw'n cael ei barchudrwy'r gwledydd i gyd!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

12 “Ond dych chi'n dangos dirmyg tuag ata i wrth feddwl,‘Does dim byd sbesial am fwrdd y Meistr;pa wahaniaeth beth sy'n cael ei roi arno?’

13 ‘Pam boddran?’ meddech chi,ac wfftio'r cwbl;”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“ac yna dod ag anifeiliaid wedi eu dwyn,rhai cloff, a rhai sâl,a cyflwyno'r rheiny'n offrwm i mi!Ydw i wir i fod i'w derbyn nhw gynnoch chi?”—yr ARGLWYDD sy'n gofyn.

14 “Melltith ar y twyllwr sy'n addo hwrdd perffaith o'i braidd,ac yna'n rhoi un gwael yn aberth i mi!Dw i yn Frenin mawr”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“ac mae parch ata i drwy'r gwledydd i gyd.”