1 Nawr, chi offeiriaid, dyma orchymyn i chi:
2 “Os wnewch chi ddim gwrandoa phenderfynu dangos parch tuag ata i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi,ac yn troi eich bendithion chi yn felltith.(Yn wir, dw i wedi gwneud hynny,am eich bod chi ddim o ddifrif.)
3 Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion,a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion– perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol,a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw!
4 Byddwch yn gwybod wedyn mai firoddodd y gorchymyn hwn i chi,fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.