14 “Ond pam?” meddech chi.Am fod yr ARGLWYDD yn dysti'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist.Ti wedi bod yn anffyddlon iddier mai hi ydy dy gymar di,a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.
15 Oni wnaeth Duw chi'n un?Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd.A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod?Onid plant duwiol?Felly gwyliwch eich hunain!Ddylai neb fod yn anffyddloni'r wraig briododd pan yn ifanc.
16 “Dw i'n casáu ysgariad,”—meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel—“a'r rhai sy'n euog o drais,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.Felly gwyliwch eich hunain!Ddylai neb fod yn anffyddlon.
17 Dych chi wedi blino'r ARGLWYDD â'ch holl siarad.“Sut ydyn ni wedi ei flino fe?” meddech chi,Trwy ddweud, “Mae pawb sy'n gwneud drwgyn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD– mae wrth ei fodd gyda nhw!”neu trwy ofyn, “Ble mae'r Duw cyfiawn yma?”