11 Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid,rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir;fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
12 “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweudeich bod wedi eich bendithio,am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
13 “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Beth ydyn ni wedi ei ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.
14 “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw.Beth ydyn ni wedi ei ennill o wrando arnoa mynd o gwmpas yn edrych yn dristo flaen yr ARGLWYDD holl-bwerus?
15 Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! –maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo;maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”
16 Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.
17 “Nhw fydd fy mhobl i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod.Bydda i'n gofalu amdanyn nhwfel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.