5 “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu;dw i'n barod i dystio yn erbynpawb sydd ddim yn fy mharchu –y rhai sy'n dewino ac yn godinebu,sy'n dweud celwydd ar lw,sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog),yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad,ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
6 “Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid,a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”
7 “Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau,a ddim yn eu cadw.Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.
8 “Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw?Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.”“Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi.“Trwy gadw'r degymau a'r offrymau.
9 Dych chi'n diodde melltith,am eich bod chi'n dwyn oddi arna i– ie, y cwbl lot ohonoch chi!
10 Dewch â'r degwm llawn i'r stordy,fel bod yna fwyd yn fy nheml.Ie, rhowch fi ar brawf,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoeddac yn tywallt bendith arnoch chi;fyddwch chi'n brin o ddim byd!
11 Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid,rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir;fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.