1 Geiriau yr Athro, mab Dafydd; brenin yn Jerwsalem.
2 Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy e'n gwneud dim sens!Mae'r cwbl yn hollol abswrd!
3 Beth ydy'r pwynt gwneud unrhyw beth?Beth sydd i'w ennill o weithio'n galed yn y byd yma?
4 Mae un genhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond dydy'r byd ddim yn newid o gwbl.
5 Mae'r haul yn codi ac yn machlud,yna rhuthro'n ôl i'r un lle, i godi eto.
6 Mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd.Mae'n troi ac yn troi, cyn dod yn ôli'r un lle yn y diwedd.