1 Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc,cyn i'r dyddiau anodd gyrraedda'r blynyddoedd ddod pan fyddi'n dweud,“Dw i'n cael dim pleser ynddyn nhw.”
2 Cyn i'r haul a golau'r lleuad a'r sêr droi'n dywyll,a'r cymylau'n dod yn ôl eto ar ôl y glaw:
3 Pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu,a dynion cryfion yn crymu;y rhai sy'n malu'r grawn yn y felin yn mynd yn brin,a'r rhai sy'n edrych drwy'r ffenestri yn colli eu golwg.
4 Pan mae'r drysau i'r stryd wedi cau,a sŵn y felin yn malu wedi tawelu;pan mae rhywun yn cael ei ddeffro'n gynnar gan gân aderyner fod holl seiniau byd natur yn distewi.
5 Pan mae gan rywun ofn uchderac ofn mynd allan ar y stryd.Pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn,y ceiliog rhedyn yn llusgo symud,a chwant rhywiol wedi hen fynd.Pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol,a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
6 Cyn i'r llinyn arian dorriac i'r fowlen aur falu,a'r llestr wrth y ffynnon yn deilchion,a'r olwyn i'w godi wedi torri wrth y pydew.
7 Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd,ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw,yr un a'i rhoddodd.
8 Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy'r cwbl yn gwneud dim sens!
9 Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn.
10 Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen.
11 Mae dywediadau'r doeth yn procio'r meddwl; maen nhw'n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi'r casgliad i gyd i ni.
12 Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben.
13 I grynhoi, y cwbl sydd i'w ddweud yn y diwedd ydy hyn: Addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.
14 Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw – hyd yn oed beth oedd o'r golwg – y da a'r drwg.