Y Pregethwr 3 BNET

Amser i bopeth

1 Mae amser wedi ei bennu i bopeth,amser penodol i bopeth sy'n digwydd yn y byd:

2 Amser i gael eich geni ac amser i farw,Amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd;

3 Amser i ladd ac amser i iacháu,Amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu;

4 Amser i wylo ac amser i chwerthin,Amser i alaru ac amser i ddawnsio;

5 Amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig,Amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio;

6 Amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll,Amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd;

7 Amser i rwygo ac amser i bwytho,Amser i gadw'n dawel ac amser i siarad;

8 Amser i garu ac amser i gasáu;Amser i ryfel ac amser i heddwch.

9 Felly beth mae'r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech?

Duw ac amser

10 Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi eu rhoi i bobl eu gwneud:

11 Mae Duw'n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw'n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau.

12 Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw.

13 Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.

14 Des i'r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: Does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.

15 “Mae popeth a fu yn dal i fod,a popeth fydd fel popeth sydd.Mae Duw'n gwneud etobeth sydd wedi mynd heibio.”

Problem Anghyfiawnder

16 Peth arall dw i'n ei weld o hyd ac o hyd: Lle byddwn i'n disgwyl cyfiawnder a thegwch mae drygioni!

17 Meddyliais, “Bydd Duw yn barnu'r bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sy'n gwneud drygioni. Mae amser wedi ei bennu i bopeth, a bydd pob gweithred yn cael ei barnu.”

18 Wedyn meddyliais, “Mae Duw yn gwneud i bobl weld eu bod nhw ddim gwell nag anifeiliaid.”

19 Mae tynged pobl ac anifeiliaid yn union yr un fath: mae'r naill a'r llall yn marw, a'r un anadl sy'n eu cadw nhw'n fyw. Dydy pobl ddim gwell nag anifeiliaid. Dydy e'n gwneud dim sens!

20 Mae'r ddau yn mynd i'r un lle yn y pen draw; mae'r ddau wedi dod o'r pridd ac yn mynd yn ôl i'r pridd.

21 Does neb wir yn gwybod fod ysbryd pobl yn codi i fyny, ac ysbryd anifeiliaid yn mynd i lawr i'r ddaear.

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

22 Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all rhywun ei wneud ydy mwynhau ei waith. Dyna ei unig wobr. Pwy ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl iddo farw?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12