10 Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth,“Edrychwch, dyma i chi beth newydd!”Ond mae wedi digwydd o'r blaen, ymhell yn ôl,o flaen ein hamser ni.
11 Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd,a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawbaeth o'u blaenau nhw chwaith.
12 Roeddwn i, yr Athro, yn frenin ar wlad Israel yn Jerwsalem.
13 Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd. Mae'n waith caled, wedi ei roi gan Dduw i'r ddynoliaeth.
14 Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i'r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli'r gwynt:
15 Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi ei blygu,na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna!
16 Meddyliais, “Dw i'n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o'm blaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.”