14 Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i'r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli'r gwynt:
15 Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi ei blygu,na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna!
16 Meddyliais, “Dw i'n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o'm blaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.”
17 Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i'r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli'r gwynt:
18 Po fwya'r doethineb, mwya'r dolur;mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon.