5 Mae'r haul yn codi ac yn machlud,yna rhuthro'n ôl i'r un lle, i godi eto.
6 Mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd.Mae'n troi ac yn troi, cyn dod yn ôli'r un lle yn y diwedd.
7 Mae'r nentydd i gyd yn llifo i'r môr,ac eto dydy'r môr byth yn llawn;maen nhw'n mynd yn ôli lifo o'r un lle eto.
8 Mae'r cwbl yn un cylch diddiwedd!Dydy hi ddim posib dweud popeth.Dydy'r llygad byth wedi gweld digon,na'r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.
9 Fydd dim yn wahanol yn y dyfodol –Yr un pethau fydd yn cael eu gwneud ac o'r blaen;Does dim byd newydd dan yr haul!
10 Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth,“Edrychwch, dyma i chi beth newydd!”Ond mae wedi digwydd o'r blaen, ymhell yn ôl,o flaen ein hamser ni.
11 Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd,a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawbaeth o'u blaenau nhw chwaith.