15 Mae gwaith yn blino'r ffŵl yn lân,dydy e byth yn gwybod ble mae e'n mynd.
16 Gwae'r wlad sydd â brenin plentynnaidd,a'i thywysogion yn dechrau gwledda'n gynnar yn y bore!
17 Ond mae'n braf ar bobl sydd â'u brenin yn gallu rheoli,a'u tywysogion yn gwybod pryd mae'n iawn i wledda– dan reolaeth, ac nid i feddwi!
18 Mae to sy'n syrthio yn ganlyniad diogi;mae'n gollwng dŵr am fod dim wedi ei wneud.
19 Mae bwyd yn cael ei baratoi i'w fwynhau,ac mae gwin yn gwneud bywyd yn llon,ond wrth gwrs arian ydy'r ateb i bopeth!
20 Paid hyd yn oed meddwl beirniadu'r brenin,na melltithio pobl gyfoethog yn dy ystafell wely.Gallai aderyn bach ddweud wrth eraill,neu ailadrodd beth ddwedaist ti.