4 Pan mae'r llywodraethwr wedi gwylltio gyda ti, paid symud;wrth i ti beidio cynhyrfu bydd ei dymer e'n tawelu.
5 Dyma beth ofnadwy arall dw i wedi ei weld –camgymeriad mae llywodraethwr yn gallu ei wneud:
6 Ffyliaid yn cael eu gosod mewn safle o awdurdod,a pobl fonheddig yn cael eu hunain ar y gwaelod.
7 Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylaua thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.
8 Gall rhywun sy'n cloddio twll syrthio i mewn iddo,a'r un sy'n torri trwy wal gerrig gael ei frathu gan neidr.
9 Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini,a'r un sy'n hollti coed gael niwed gan y coed.
10 Os nad oes min ar y fwyell,os na chafodd ei hogi,rhaid defnyddio mwy o egni.Mae doethineb bob amser yn helpu!