7 Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylaua thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.
8 Gall rhywun sy'n cloddio twll syrthio i mewn iddo,a'r un sy'n torri trwy wal gerrig gael ei frathu gan neidr.
9 Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini,a'r un sy'n hollti coed gael niwed gan y coed.
10 Os nad oes min ar y fwyell,os na chafodd ei hogi,rhaid defnyddio mwy o egni.Mae doethineb bob amser yn helpu!
11 Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno,mae'r swynwr wedi methu!
12 Mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr,ond mae'r ffŵl yn dinistrio'i hun gyda'i eiriau.
13 Mae'n dechrau trwy siarad dwli,ac yn darfod trwy ddweud pethau hollol wallgof.