9 Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini,a'r un sy'n hollti coed gael niwed gan y coed.
10 Os nad oes min ar y fwyell,os na chafodd ei hogi,rhaid defnyddio mwy o egni.Mae doethineb bob amser yn helpu!
11 Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno,mae'r swynwr wedi methu!
12 Mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr,ond mae'r ffŵl yn dinistrio'i hun gyda'i eiriau.
13 Mae'n dechrau trwy siarad dwli,ac yn darfod trwy ddweud pethau hollol wallgof.
14 Mae'r ffŵl yn siarad gormod!Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?
15 Mae gwaith yn blino'r ffŵl yn lân,dydy e byth yn gwybod ble mae e'n mynd.