5 Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywydyn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam,alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud,a fe sydd wedi creu popeth.
6 Hau dy had yn y bore,a phaid segura gyda'r nos;wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo –y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd.
7 “Mae golau bywyd mor felys,ac mae'n hyfryd cael gweld yr haul!”
8 Os ydy rhywun yn cael oes hir,dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd,ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach.Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!
9 Ti'n ifanc! Mwynha dy huntra mae gen ti gyfle!Cei ddigon o hwyl a sbripan wyt ti'n ifanc.Gwna be fynni di,beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi –ond cofia y bydd Duwyn dy alw i gyfrif am y cwbl.
10 Paid cael dy lethu gan boenau bywyd,a chadwa dy hun yn iach!Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para'n hir!