7 Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd,ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw,yr un a'i rhoddodd.
8 Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy'r cwbl yn gwneud dim sens!
9 Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn.
10 Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen.
11 Mae dywediadau'r doeth yn procio'r meddwl; maen nhw'n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi'r casgliad i gyd i ni.
12 Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben.
13 I grynhoi, y cwbl sydd i'w ddweud yn y diwedd ydy hyn: Addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.