12 Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi ei gyflawni eisoes!Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a'r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud.
13 Des i'r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb – mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch.
14 “Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw'n mynd,ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.”Ond wedyn, yr un dynged sy'n disgwyl y naill a'r llall.
15 Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i'r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy'r pwynt bod mor ddoeth?” Des i'r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens.
16 Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae'n ofnadwy! Mae'r doeth yn marw yn union yr un fath â'r rhai ffôl.
17 Felly roeddwn i'n casáu bywyd, am fod popeth sy'n digwydd yn y byd yn hollol annheg yn fy ngolwg i. Mae'r cwbl mor ddiystyr – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
18 Roeddwn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i.