1 Dyma fi'n ystyried yr holl orthrwm sy'n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau y rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i'w hachub nhw o afael y gorthrymwyr.
2 Roedd rhaid i mi longyfarch y rhai oedd eisoes wedi marw, am eu bod yn well eu byd na'r rhai sy'n dal yn fyw.
3 Ond mae'n well fyth ar y rhai hynny sydd ddim wedi cael eu geni, a ddim yn gorfod edrych ar yr holl ddrygioni sy'n digwydd yn y byd!
4 Yna dyma fi'n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a'i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli'r gwynt!
5 “Mae'r ffŵl yn plethu ei freichiauac yn gwastraffu ei fywyd,”
6 Ac eto,“Mae un llond llaw gyda gorffwysyn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.”Ydy, mae fel ceisio rheoli'r gwynt!