12 “Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o'i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i'w thorri!”
13 “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn wellna brenin mewn oed sy'n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.”
14 Hyd yn oed os oedd e yn y carchar cyn dod i reoli, ac wedi'i eni'n dlawd yn y wlad y byddai'n teyrnasu arni.
15 Yna dyma fi'n gweld yr holl bobl sy'n byw yn y byd yn sefyll o gwmpas bachgen ifanc arall fyddai'n ei olynu.
16 Doedd dim posib cyfri'r holl bobl roedd yn eu harwain! Ac eto fydd y cenedlaethau i ddod ddim yn gwerthfawrogi hwnnw. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.