1 Gwylia beth rwyt ti'n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy'r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw'n gwneud rhywbeth o'i le.
2 Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a thithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau.
3 “Mae breuddwydion yn dod wrth boeni gormod,a siarad ffôl wrth ddweud gormod.”
4 Pan wyt ti'n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo'i wneud.
5 Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio'i chyflawni!