11 “Po fwya'r llwyddiant,mwya'r bobl sydd i'w cynnal ganddo.”Felly beth mae'r perchennog yn ei ennill heblaw fod ganddo rywbeth i edrych arno?
12 “Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin,faint bynnag sydd ganddo i'w fwyta,ond mae'r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digonyn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.”
13 Dyma rywbeth ofnadwy dw i wedi sylwi arno, ond mae'n digwydd o hyd: Pobl yn cadw eu cyfoeth iddyn nhw eu hunain rhag ofn i rhyw anffawd ddigwydd.
14 Ond yna mae'n colli'r cwbl drwy ryw bwl o anlwc. Er ei fod wedi cael mab, does ganddo ddim i'w basio ymlaen i'r mab hwnnw.
15 Mae plentyn yn cael ei eni i'r byd heb ddim, ac mae'n gadael y byd heb ddim. Does neb yn gallu mynd a'i gyfoeth gydag e.
16 Mae'n beth trist ofnadwy. Yn union fel mae'n dod i'r byd heb ddim, mae'n gadael heb ddim. Felly faint gwell ydy e? Beth ydy'r pwynt ymdrechu i ddim byd?
17 Mae'n treulio ei fywyd i gyd dan gwmwl marwolaeth! – yn rhwystredig, yn dioddef o salwch ac yn flin.