1 “Mae enw da yn well na phersawr drud,”a'r diwrnod dych chi'n marw yn well na dydd eich geni.
2 Mae'n well mynd i gartref lle mae pawb yn galarunag i dŷ lle mae pawb yn cael parti.Marw fydd y diwedd i bawb,a dylai pobl ystyried hynny.
3 Mae tristwch yn well na chwerthin –er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon.
4 Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth,ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.
5 Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi ceryddnac ar ffyliaid yn canu eich clodydd.