15 Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: Rhywun sy'n ffyddlon i Dduw yn marw'n ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael byw'n hir er gwaetha'i holl ddrygioni.
16 Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi!
17 A paid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser?
18 Y peth gorau i'w wneud ydy dal gafael yn y naill gyngor a'r llall, oherwydd mae'r person sy'n parchu Duw yn osgoi y ddau eithaf.
19 “Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywunna deg o lywodraethwyr mewn dinas.”
20 “Does neb drwy'r byd i gyd mor gyfiawnnes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.”
21 Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth sy'n cael ei ddweud,rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!”