19 “Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywunna deg o lywodraethwyr mewn dinas.”
20 “Does neb drwy'r byd i gyd mor gyfiawnnes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.”
21 Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth sy'n cael ei ddweud,rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!”
22 Oherwydd mae'n dda i ti gofio dy fod ti dy hunwedi dweud pethau drwg am bobl eraill lawer gwaith.
23 Ceisiais ddefnyddio fy noethineb i ddeall y cwbl, ond methu cael atebion.
24 Mae'n anodd deall popeth sy'n digwydd – mae'r pethau yma yn llawer rhy ddwfn i unrhyw un ddarganfod yr atebion i gyd.
25 Dyma fi'n troi fy sylw i astudio ac ymchwilio'n fanwl i geisio deall beth ydy doethineb, a pa mor dwp ydy drygioni, ac mor wallgof ydy ffolineb.