2 Mae'n well mynd i gartref lle mae pawb yn galarunag i dŷ lle mae pawb yn cael parti.Marw fydd y diwedd i bawb,a dylai pobl ystyried hynny.
3 Mae tristwch yn well na chwerthin –er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon.
4 Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth,ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.
5 Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi ceryddnac ar ffyliaid yn canu eich clodydd.
6 Oherwydd mae sŵn ffŵl yn chwerthinfel brigau yn clecian wrth losgi dan grochan.Mae'n ddiystyr!
7 Mae gormesu'n gwneud i'r doeth edrych fel ffŵl,ac mae breib yn llygru barn pobl.
8 “Mae gorffen rhywbeth yn well na'i ddechrau,”ac “Mae amynedd yn well na balchder.”