1 Pwy sy'n ddoeth go iawn? Pwy sy'n gallu esbonio pethau?“Mae doethineb rhywun yn gwneud i'w wyneb oleuo,Ac mae'r olwg galed ar ei wyneb yn diflannu.”
2 Dw i'n dweud,“Gwranda ar orchymyn y brenin –gan dy fod wedi tyngu llw o flaen Duw i wneud hynny.”
3 Paid bod ar frys i fynd o'i bresenoldeb;a paid oedi pan fydd pethau'n anghysurus.Gall y brenin wneud unrhyw beth mae'n ei ddewis.
4 Mae gan y brenin awdurdod llwyr,a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?”
5 Fydd yr un sy'n ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion.Mae'r person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth.