3 Paid bod ar frys i fynd o'i bresenoldeb;a paid oedi pan fydd pethau'n anghysurus.Gall y brenin wneud unrhyw beth mae'n ei ddewis.
4 Mae gan y brenin awdurdod llwyr,a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?”
5 Fydd yr un sy'n ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion.Mae'r person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth.
6 Mae amser penodol a threfn i bopeth.Ond mae'r perygl o ryw drasiedi'n digwyddyn pwyso'n drwm ar bobl.
7 Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?
8 A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.
9 Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.