7 Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?
8 A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.
9 Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.
10 Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw'n arfer mynd a dod o'r lle sanctaidd, tra roedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy'r pwynt?
11 Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg.
12 Mae pechadur yn cyflawni'r un drwg ganwaith, ac yn dal i gael byw'n hir. Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydd hi'n well ar y rhai sy'n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw'n dangos parch ato.
13 Fydd hi ddim yn dda ar y rhai sy'n gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir, am nad ydyn nhw'n parchu Duw.