1 Felly ystyriais y cwbl yn fanwl, i geisio deall trefn popeth. A dod i'r casgliad fod y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn (y rhai doeth a'r cwbl maen nhw'n ei wneud) yn llaw Duw. Fyddan nhw'n cael eu caru neu eu casáu? Does neb yn gwybod beth sydd o'u blaenau nhw.
2 A'r un dynged sy'n disgwyl pawb: y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, a'r rhai drwg, y rhai sy'n barod i addoli, a'r rhai sydd ddim; yr un sy'n cyflwyno aberth i Dduw, a'r un sydd ddim yn aberthu. Mae'r un peth yn digwydd i'r bobl sy'n plesio Duw ac i'r rhai sydd ddim; i'r un sy'n tyngu llw i Dduw, a'r un sy'n gwrthod gwneud hynny.
3 Dyna sydd mor annheg am yr hyn sy'n digwydd yn y byd: yr un dynged sy'n wynebu pawb! Mae pawb fel petaen nhw am wneud drwg; mae'r ffordd maen nhw'n byw yn wallgof! A beth sy'n dod wedyn? – marwolaeth!
4 Does dim eithriadau! O leia mae gan rywun sy'n fyw rywbeth i edrych ymlaen ato – “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw”.
5 Mae'r byw yn gwybod eu bod nhw'n mynd i farw, ond dydy'r meirw'n gwybod dim byd! Does dim gwobr arall yn eu disgwyl nhw, ac mae pawb yn eu hanghofio nhw.
6 Beth oedden nhw'n ei garu, beth oedden nhw'n ei gasáu, a'r hyn oedd yn eu gwneud nhw'n genfigennus – mae'r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy'n digwydd yn y byd.