2 A'r un dynged sy'n disgwyl pawb: y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, a'r rhai drwg, y rhai sy'n barod i addoli, a'r rhai sydd ddim; yr un sy'n cyflwyno aberth i Dduw, a'r un sydd ddim yn aberthu. Mae'r un peth yn digwydd i'r bobl sy'n plesio Duw ac i'r rhai sydd ddim; i'r un sy'n tyngu llw i Dduw, a'r un sy'n gwrthod gwneud hynny.
3 Dyna sydd mor annheg am yr hyn sy'n digwydd yn y byd: yr un dynged sy'n wynebu pawb! Mae pawb fel petaen nhw am wneud drwg; mae'r ffordd maen nhw'n byw yn wallgof! A beth sy'n dod wedyn? – marwolaeth!
4 Does dim eithriadau! O leia mae gan rywun sy'n fyw rywbeth i edrych ymlaen ato – “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw”.
5 Mae'r byw yn gwybod eu bod nhw'n mynd i farw, ond dydy'r meirw'n gwybod dim byd! Does dim gwobr arall yn eu disgwyl nhw, ac mae pawb yn eu hanghofio nhw.
6 Beth oedden nhw'n ei garu, beth oedden nhw'n ei gasáu, a'r hyn oedd yn eu gwneud nhw'n genfigennus – mae'r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy'n digwydd yn y byd.
7 Dos, mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen! Dyna mae Duw am i ti ei wneud.
8 Gwisga dy ddillad gorau, a pharatoi dy hun i fynd allan i fwynhau.