9 Mwynha fywyd gyda'r wraig rwyt ti'n ei charu am y cyfnod byr wyt ti yn y byd dryslyd yma. Mae'n rhodd Duw i ti am dy holl waith caled ar y ddaear.
10 Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti'n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti'n mynd.
11 Yna, ystyriais eto yr hyn sy'n digwydd yn y byd:Dydy'r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras,Na'r cryfaf yn ennill y frwydr;Dydy'r doethaf ddim yn llwyddo bob tro,Na'r clyfraf yn cael y cyfoeth,Dydy'r un sy'n nabod eraill ddim bob amser yn cael ei ffafrio.Mae damweiniau'n gallu digwydd i bawb.
12 Does neb yn gwybod pryd ddaw ei amser.Fel pysgod yn cael eu dal mewn rhwyd,neu adar mewn magl,mae rhyw anffawd yn gallu dod ar draws pobl yn gwbl ddirybudd.
13 Dyma enghraifft o rywbeth welais i'n digwydd, gafodd effaith mawr arna i:
14 Roedd tref fechan lle nad oedd llawer o bobl yn byw. Daeth brenin cryf i ymosod arni, ei hamgylchynu ac adeiladu rampiau mawr i warchae yn ei herbyn.
15 Ond roedd dyn tlawd oedd yn ddoeth iawn yn byw yn y dref. Dyma fe'n llwyddo i achub y dref drwy ei ddoethineb. Ac eto doedd neb yn ei gofio!