1 Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw a'm galw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Sosthenes hefyd.
2 At eglwys Dduw yn Corinth. Dych chi wedi'ch neilltuo gan Dduw i berthynas â'r Meseia Iesu. Dych chi wedi'ch galw i fod yn bobl sanctaidd, fel pob Cristion arall – sef pawb ym mhobman sy'n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist. Fe sy'n Arglwydd arnyn nhw ac arnon ni.
3 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
4 Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn i'r Meseia Iesu.
5 Mae wedi'ch gwneud chi'n gyfoethog yn eich gallu i siarad am bethau ysbrydol, a'ch gwybodaeth ysbrydol.
6 Mae'r neges am y Meseia wedi gwreiddio'n ddwfn yn eich bywydau chi.