1 Corinthiaid 16 BNET

Y casgliad i bobl Dduw

1 I droi at yr arian sy'n cael ei gasglu i helpu pobl Dduw: Gwnewch beth ddwedais i wrth eglwysi Galatia i'w wneud.

2 Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o'r neilltu, faint bynnag mae'ch incwm chi'n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu'r cwbl gyda'i gilydd pan ddof i acw.

3 Wedyn, pan gyrhaedda i bydda i'n ysgrifennu llythyrau yn awdurdodi'r rhai fyddwch chi'n eu dewis i fynd â'ch rhodd i Jerwsalem.

4 Ac os dych chi'n meddwl y byddai'n beth da i mi fynd, gallan nhw fynd gyda mi.

Cais personol

5 Dw i'n bwriadu mynd i dalaith Macedonia gyntaf, a bydda i'n dod i'ch gweld chi ar ôl hynny.

6 Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn – hyd yn oed dreulio'r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith.

7 Petawn i'n dod yn syth fyddwn i ond yn gallu taro heibio, a does gen i ddim eisiau gwneud hynny. Dw i eisiau aros gyda chi am dipyn, os Duw a'i myn.

8 Dw i'n mynd i aros yn Effesus tan y Pentecost,

9 am fod cyfle i wneud gwaith mawr wedi codi yma, er bod digon o wrthwynebiad.

10 Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw.

11 Felly ddylai neb ac edrych i lawr arno. A rhowch help ymarferol iddo ar ei daith yn ôl ata i. Dw i'n edrych ymlaen at ei weld e a'r brodyr eraill.

12 Ynglŷn â'n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda'r lleill, ond roedd e'n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle!

13 Gwyliwch eich hunain. Daliwch i gredu. Byddwch yn ddewr. Byddwch yn gryf.

14 Gwnewch bopeth mewn cariad.

15 Gwyddoch mai'r rhai o dŷ Steffanas oedd y bobl gyntaf yn nhalaith Achaia i ddod i gredu, ac maen nhw wedi rhoi eu hunain yn llwyr i helpu eu cyd-Gristnogion. Dw i'n eich annog chi, frodyr a chwiorydd,

16 i barchu pobl fel nhw, a phawb arall tebyg sydd wedi rhoi eu hunain yn llwyr i'r gwaith.

17 Roeddwn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi.

18 Maen nhw wedi codi nghalon i, fel maen nhw wedi gwneud i chi hefyd. Mae'n bwysig cydnabod rhai fel nhw.

Cyfarchion i gloi

19 Mae'r eglwysi yma yn nhalaith Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Priscila yn cofio atoch chi'n frwd yn yr Arglwydd, a'r eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw.

20 Yn wir, mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn anfon eu cyfarchion.Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad.

21 Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL.

22 Os ydy rhywun ddim yn caru'r Arglwydd, mae dan felltith! O, tyrd Arglwydd!

23 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.

24 Fy nghariad atoch chi i gyd sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Amen.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16