1 Corinthiaid 2 BNET

Y neges am y groes

1 Frodyr a chwiorydd annwyl, nid dawn dweud slic a rhyw areithiau clyfar gawsoch chi gen i pan oeddwn i'n cyhoeddi beth oedd cynllun Duw i chi.

2 Roeddwn i'n benderfynol mai dim ond un peth oedd i gael sylw – marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes.

3 Pan oeddwn i gyda chi roeddwn i'n teimlo'n wan iawn, yn ofnus ac yn nerfus.

4 Dim llwyddo i'ch perswadio chi gyda geiriau clyfar wnes i. Roedd hi'n gwbl amlwg fod yr Ysbryd Glân ar waith!

5 Roeddwn i eisiau i chi ymateb i rym Duw ei hun, dim i ryw syniadau oedd yn swnio'n ddoeth.

Doethineb yr Ysbryd

6 Ac eto mae'r neges dŷn ni'n ei chyhoeddi yn neges ddoeth, ac mae'r bobl sy'n gwrando arni yn dangos eu bod nhw'n bobl aeddfed. Ond dim ffordd ein hoes ni o edrych ar bethau ydy hi. A dim ffordd y rhai sy'n llywodraethu chwaith – mae hi ar ben arnyn nhw beth bynnag!

7 Na, dirgelwch gan Dduw ydy'r doethineb dŷn ni'n sôn amdano. Roedd wedi ei guddio yn y gorffennol, er fod Duw wedi ei drefnu cyn i amser ddechrau. Roedd wedi ei gadw i ni gael rhannu ei ysblander trwyddo.

8 Ond wnaeth y rhai sy'n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni.

9 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi ei baratoi i'r rhai sy'n ei garu.”

10 Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi ei esbonio i ni – ac mae'r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd!

11 Pwy sy'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy'r unig un sy'n gwybod beth sydd ar feddwl Duw.

12 A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni.

13 A dyma'r union neges dŷn ni'n ei rhannu – dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni'n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd.

14 Os ydy'r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud – maen nhw'n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall.

15 Os ydy'r Ysbryd gynnon ni, mae'r cwbl yn gwneud sens! Ond dydy pobl eraill ddim yn ein deall ni:

16 “Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy'n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae'r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16