10 Frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist – stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wedi eich rhannu'n ‛ni‛ a ‛nhw‛.
11 Dw i'n gwybod y cwbl amdanoch chi – mae rhai o bobl Chloe wedi dweud wrtho i am yr holl gecru yn eich plith chi.
12 Mae un ohonoch chi'n dweud, “Paul dw i'n ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw i'n ei ddilyn,” neu “Dw i'n dilyn Pedr”; ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw i'n ei ddilyn”!
13 Ydy hi'n bosib rhannu'r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi'ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na!
14 Diolch byth, wnes i fedyddio neb ond Crispus a Gaius.
15 Felly all neb ohonoch chi ddweud eich bod wedi cael eich bedyddio i'm henw i!
16 (O ie, fi fedyddiodd y rhai o dŷ Steffanas hefyd; ond dw i'n reit siŵr mod i ddim wedi bedyddio neb arall.)