13 Ydy hi'n bosib rhannu'r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi'ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na!
14 Diolch byth, wnes i fedyddio neb ond Crispus a Gaius.
15 Felly all neb ohonoch chi ddweud eich bod wedi cael eich bedyddio i'm henw i!
16 (O ie, fi fedyddiodd y rhai o dŷ Steffanas hefyd; ond dw i'n reit siŵr mod i ddim wedi bedyddio neb arall.)
17 Cyhoeddi'r newyddion da ydy'r gwaith roddodd y Meseia i mi, dim bedyddio pobl. A dw i ddim yn trïo bod yn glyfar wrth wneud hynny chwaith, rhag ofn i rym y neges am groes y Meseia fynd ar goll.
18 Mae'r neges am y groes yn nonsens llwyr i'r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy'n cael ein hachub, dyma'n union lle mae grym Duw i'w weld.
19 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dinistrio doethineb dynol; ac yn diystyru eu clyfrwch.”