17 Cyhoeddi'r newyddion da ydy'r gwaith roddodd y Meseia i mi, dim bedyddio pobl. A dw i ddim yn trïo bod yn glyfar wrth wneud hynny chwaith, rhag ofn i rym y neges am groes y Meseia fynd ar goll.
18 Mae'r neges am y groes yn nonsens llwyr i'r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy'n cael ein hachub, dyma'n union lle mae grym Duw i'w weld.
19 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dinistrio doethineb dynol; ac yn diystyru eu clyfrwch.”
20 Ble mae'r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae'r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp!
21 Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio'u clyfrwch eu hunain i ddod i'w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‛twpdra'r‛ neges dŷn ni'n ei chyhoeddi i achub y rhai sy'n credu.
22 Mae'r Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, a'r cwbl mae'r Groegiaid eisiau ydy rhywbeth sy'n swnio'n glyfar.
23 Felly pan dŷn ni'n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae'r fath syniad yn sarhad i'r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill.