23 Felly pan dŷn ni'n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae'r fath syniad yn sarhad i'r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill.
24 Ond i'r rhai mae Duw wedi eu galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) – iddyn nhw, y Meseia sy'n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw.
25 Mae ‛twpdra‛ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‛gwendid‛ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl.
26 Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi'n bobl arbennig o glyfar, neu ddylanwadol, neu bwysig.
27 Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‛twp‛, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy'n meddwl eu bod nhw'n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy'n dal grym.
28 Dewisodd y bobl sy'n ‛neb‛, y bobl hynny mae'r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ‛rhywun‛.
29 Does gan neb le i frolio o flaen Duw!