11 Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd.
12 Felly, os dych chi'n un o'r rhai sy'n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio!
13 Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.
14 Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.
15 Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am beth dw i'n ei ddweud:
16 Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia?
17 Un dorth sydd, felly dŷn ni sy'n grŵp o unigolion, yn dod yn un corff wrth rannu o'r dorth.