19 Felly beth dw i'n geisio ei ddweud? – fod bwyta beth sydd wedi ei offrymu i eilun-dduwiau yn golygu rhywbeth, neu fod yr eilun ei hun yn rhywbeth?
20 Na, dweud ydw i mai cael eu hoffrymu i gythreuliaid mae'r aberthau yn y pen draw, nid i Dduw; a dw i ddim am i chi gael dim i'w wneud â chythreuliaid.
21 Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid.
22 Ydyn ni wir eisiau “gwneud yr Arglwydd yn eiddigeddus” Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gryfach nag e?
23 “Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol.
24 Ddylen ni ddim ceisio'n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.
25 Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau,