21 Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid.
22 Ydyn ni wir eisiau “gwneud yr Arglwydd yn eiddigeddus” Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gryfach nag e?
23 “Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol.
24 Ddylen ni ddim ceisio'n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.
25 Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau,
26 am mai “Duw sydd biau'r ddaear, a phopeth sydd ynddi.”
27 Ac os ydy rhywun sydd ddim yn Gristion yn gwahodd rhai ohonoch chi am bryd o fwyd, a chithau eisiau derbyn y gwahoddiad, gallwch fwyta popeth sy'n cael ei roi o'ch blaen – does dim rhaid gofyn cwestiynau.