23 “Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol.
24 Ddylen ni ddim ceisio'n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.
25 Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau,
26 am mai “Duw sydd biau'r ddaear, a phopeth sydd ynddi.”
27 Ac os ydy rhywun sydd ddim yn Gristion yn gwahodd rhai ohonoch chi am bryd o fwyd, a chithau eisiau derbyn y gwahoddiad, gallwch fwyta popeth sy'n cael ei roi o'ch blaen – does dim rhaid gofyn cwestiynau.
28 Ond os ydy rhywun yn dweud, “Mae hwn wedi cael ei offrymu yn aberth,” dylech beidio ei fwyta. Gwnewch hynny er mwyn y person a ddwedodd wrthoch chi, a lles y cydwybod –
29 cydwybod y person hwnnw dw i'n ei olygu, nid eich cydwybod chi. “Ond pam dylai fy rhyddid i gael ei glymu gan gydwybod rhywun arall?” meddech chi.