5 Ond er gwaetha hyn i gyd, wnaeth y rhan fwya ohonyn nhw ddim plesio Duw – “buon nhw farw yn yr anialwch.”
6 Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i'n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw.
7 Maen nhw'n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.”
8 Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod!
9 Maen nhw'n rhybudd i ni beidio rhoi'r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd.
10 Ac maen nhw'n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw.
11 Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd.